Ers iddi gael ei hagor fwy nag ugain mlynedd yn ôl, mae’r bont bren wedi galluogi tua miliwn o ymwelwyr i groesi ac archwilio’r gwlyptiroedd. Gyda'r holl ddefnydd dyddiol hwn, mae'r pren yn dangos ei oedran ac, ac felly, bu angen mwy a mwy o waith atgyweirio a chynnal a chadw. Mae angen ei ddisodli ar frys yn awr.
Bydd gosod y bont newydd yn golygu ychydig o amhariad dros yr ychydig o wythnosau nesaf, ond mae llwybr dros dro arall i'r warchodfa wedi'i nodi i leihau'r effaith ar ymwelwyr.
Dywedodd Jo Jones, Rheolwr Canolfan WWT Llanelli: "Rydym wrth ein bodd ein bod bellach yn gallu disodli y bont droed treuliedig gyda dyluniad cryf a hirhoedlog i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael mynediad i’r warchodfa a chysylltu â natur y gwlyptir yn y blynyddoedd i ddod."
"Rydym yn sylweddoli y bydd y gwaith yn peri anghyfleustra i’n hymwelwyr rheolaidd yn y tymor byr, ond mae diogelu’r mynediad hwn yn hanfodol i sicrhau dyfodol y warchodfa natur, felly gofynnwn i bawb fod yn amyneddgar gyda ni."
"Mae’r gwaith o adeiladu’r bont newydd yn cael ei gefnogi gan gyllid gan Gyngor Sir Caerfyrddin o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU."